|












Cliciwch i gael gweld oriel newydd y Gymdeithas, ac i gyfrannu lluniau.

. |
Y Gymdeithas
Prif weithgaredd y Gymdeithas, a ffurfiwyd yng Ngorffennaf 1978, yw'r rhaglen gynhwysfawr o deithiau cerdded a gynhelir ledled Cymru ar bron bob dydd Sadwrn o'r flwyddyn. Trefnir yn flynyddol dros 100 o deithiau, pob un dan ofal arweinydd sydd a diddordeb arbennig mewn gwahanol agweddau ar fyd natur a hanes Cymru.

Gweithgareddau
Yn ogystal a'r teithiau poblogaidd mae'r Gymdeithas yn:
- trefnu cyfarfodydd cymdeithasol a darlithoedd fin nos
- cynnal pabell ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol
- cynnal cyfarfod blynyddol, a gynhelir yn yr hydref
- cyhoeddi Y Naturiaethwr ddwywaith y flwyddyn
- cyhoeddi Cylchlythyr ddwywaith y flwyddyn
- cyhoeddi llyfrau ar enwau Cymraeg creaduriad a phlanhigion
- lleisio barn gyhoeddus ar faterion amgylcheddol
- trefnu pris gostyngol gyda nifer o siopau dillad ac offer awyr agored
- cynnig grantiau bob blwyddyn am waith gwreiddiol ym myd natur
- cynnal cyfarfodydd gwaith cadwriaethol
Aelodaeth
Mae'r flwyddyn aelodaeth yn ymestyn o 1 Gorffennaf hyd 30 Mehefin. Gall unigolyn, teulu, pensiynwr neu fyfyiwr ymaelodi. Cliciwch yma i gael y ffurflen ymaelodi.
Map teithiau - Chwefror - Awst 2009
Cliciwch ar swigen i weld dyddiad y daith

|
Y digwyddiadau nesa
Hysbysebion
Cynigir 15% o ostyngiad i aelodau’r Gymdeithas gan Siop Ddillad Awyr Agored
DYLAN JONES, CRIB GOCH, PEN LLYN,CAERNARFON
Hefyd, mae ganddo siop yn Llanberis
Llyfrau Cymdeithas Edward Llwyd
Anifeiliaid asgwrn cefn
Rhestr enwau safonol Cymraeg Lladin a Saesneg.
Pris £3.00 + p.a.p.
Planhigion blodeuol, Conwydd a Rhedyn
Pris £4.50 + p.a.p.
Neu y ddau am bris gostyngol o £5.00 + p.a.p. |