Cymdeithas Edward Llwyd Cymdeithas Genedlaethol Naturiaethwyr Cymru. Elusen gofrestredig rhif 1126027

Gweithgareddau'r Gogledd Orllewin

Gweithgareddau'r Gogledd Ddwyrain

Gweithgareddau'r De a'r Canolbarth

Pwy ydym ni?

Enwir y Gymdeithas ar ôl Edward Llwyd, a anwyd yn 1660 ac a alwyd yn ei gyfnod "y naturiaethwr gorau yn awr yn Ewrop".

Ym 1699 cyhoeddodd gatolog enwog o ffosilau a mwynau sef Litholphylacii Britannici Ichnograhphia. Ond yn ogystal ag ymddiddori mewn botaneg a daeareg, roedd Llwyd hefyd yn hynafieithydd ac ac yn ieithydd o fri, ac ar ei daith bedair blynedd o gwmpas Cymru, Iwerddon, yr Alban, Cernyw a Llydaw, rhwng Mai 1697 ac Ebrill 1701, aeth ati i ddysgu'r ieithoedd Celtaidd a chasglu gwybodaeth am lên, arferion, hynafiaethau a phlanigion y gwledydd y teithai drwyddynt.

Pan nad oedd yn pererindota treuliodd Llwyd ei oes yn Rhydychen. Wedi cyfnod byr yn yr brifysgol, ymunodd a staff Amgueddfa Ashmole. Fe'i penodwyd yn Is-geidwad yr amgueddfa yn 1687 ac yna'n Geidwad yn 1691.

Rhoddodd Llwyd, a oedd yn fab i Edward Llwyd, Llanforda, ger Croesoswallt, a Bridget Pryse, Glanffraid, Ceredigion, ei fryd ar gyhoeddi ffrwyth ei waith ymchwil. Ond Vol. 1: Glossography (1707) oedd yr unig gyfrol o'i Archaeologia Britannica a llwyddodd i'w chwblhau cyn ei farwolaeth ym 1709, flwyddyn wedi iddo gael ei ethol yn Gymrawd y Gymdeithas Frenhinol.

Swyddogion y Gymdeithas:

Cadeirydd: Tom Jones
Is-Gadeirydd: Wyre Thomas
Ysgrifennydd: -------------
Trysorydd: Ieuan Roberts
Ysgrifennydd Aelodaeth: Alan Williams 01792863417

F & P