|












Cliciwch i gael gweld oriel newydd y Gymdeithas, ac i gyfrannu lluniau.

. |
Y Gymdeithas
Prif weithgaredd y Gymdeithas, a ffurfiwyd yng Ngorffennaf 1978, yw'r rhaglen gynhwysfawr o deithiau cerdded a gynhelir ledled Cymru ar bron bob dydd Sadwrn o'r flwyddyn. Trefnir yn flynyddol dros 100 o deithiau, pob un dan ofal arweinydd sydd a diddordeb arbennig mewn gwahanol agweddau ar fyd natur a hanes Cymru.

Gweithgareddau
Yn ogystal a'r teithiau poblogaidd mae'r Gymdeithas yn:
- trefnu cyfarfodydd cymdeithasol a darlithoedd fin nos
- cynnal pabell ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol
- cynnal cyfarfod blynyddol, a gynhelir yn yr hydref
- cyhoeddi Y Naturiaethwr ddwywaith y flwyddyn
- cyhoeddi Cylchlythyr ddwywaith y flwyddyn
- cyhoeddi llyfrau ar enwau Cymraeg creaduriad a phlanhigion
- lleisio barn gyhoeddus ar faterion amgylcheddol
- trefnu pris gostyngol gyda nifer o siopau dillad ac offer awyr agored
- cynnig grantiau bob blwyddyn am waith gwreiddiol ym myd natur
- cynnal cyfarfodydd gwaith cadwriaethol
Aelodaeth
Mae'r flwyddyn aelodaeth yn ymestyn o 1 Gorffennaf hyd 30 Mehefin. Gall unigolyn, teulu, pensiynwr neu fyfyiwr ymaelodi. Cliciwch yma i gael y ffurflen ymaelodi.
Map teithiau - Medi 2008 - Chwefror 2009
Cliciwch ar swigen i weld dyddiad y daith

|
Y digwyddiadau nesa
Llyfrau ar werth
Llyfrau Cymdeithas Edward Llwyd
Anifeiliaid asgwrn cefn
Rhestr enwau safonol Cymraeg Lladin a Saesneg.
Pris £3.00 + p.a.p.
Planhigion blodeuol, Conwydd a Rhedyn
Pris £4.50 + p.a.p.
Neu y ddau am bris gostyngol o £5.00 + p.a.p.
Newyddion
YN EISIAU - YSGRIFENNYDD CYFFREDINOL
a hefyd
GOLYGYDD i’r NATURIAETHWR
Ar ôl tair blynedd o wasanaeth clodwiw a dilychwin dymuniad ein Hysgrifennydd Cyffredinol, Gruff Roberts yw cael ei ryddhau o’i swydd fel ysgrifennydd, yng nghyfarfod blynyddol y Gymdeithas fis Medi. Mae’r swydd yn cwmpasu trefnu cyfarfodydd y Pwyllgor Gwaith, sydd yn cyfarfod pedair gwaith y flwyddyn, cymryd a chadw’r cofnodion a bod yn ddolen gyswllt rhwng y Gymdeithas a’r cyhoedd. Mae bod yn gyfarwydd â sustemau technoleg gwybodaeth yn fanteisiol iawn.
* * *
Ar ôl deng mlynedd o lafur diflino, ddiwedd 2008 mae Goronwy Wynne hefyd am gael ei ryddhau o’i swydd fel Golygydd y Naturiaethwr. Ail sefydlodd Goronwy'r cylchgrawn i fod yn un o safon uchel iawn. Mae’n cwmpasu casglu erthyglau a sylwadau yn null a thraddodiad Edward Llwyd a threfnu cyhoeddi’r cylchgrawn ddwywaith y flwyddyn. Mae hefyd yn aelod o Bwyllgor Gwaith y Gymdeithas.
Mae’n bosibl i’r Golygydd newydd drefnu panel golygyddol i’w gynorthwyo, os gwêl fod hynny’n fanteisiol i’r olygyddiaeth. Ni chynigir tâl am y ddwy swydd ond ad-delir unrhyw dreuliau a wneir ar ran y Gymdeithas.
Os am fwy o wybodaeth cysylltwch â’r Cadeirydd presennol, Ieuan Roberts neu Gruff Roberts. Gellir cael eu cyfeiriadau a rhifau ffôn yn y cylchlythyr.
|