Ar gyfer Cerddwyr
Mae pob aelod yn gyfrifol am ei ddiogelwch ei hun ac ni ddylai ymddygiad unrhyw un amharu ar fwynhad a diogelwch eraill yn y grwp.
Gyda hyn mewn golwg:
1. Gwisgo dillad ac esgidiau sydd yn addas i'r dirwedd a tywydd a chludo dillad wrth gefn, deunydd cymorth cyntaf, chwiban a thortsh.
2. Cario cyflenwad o fwyd a diod.
3. Cymryd i ystyriaeth hyd y daith, y dirwedd a'r tywydd tebygol ac ystyried eich fitrwydd i gwrdd a gofynion y daith.
4. Hysbysu'r arweinydd os byddwch yn gadael cyn diwedd y daith.
5. Cadw at côd sydd yn berthnasol i'r daith e.e. Côd Cefn Gwlad.
6. Dilyn yr arweinydd os na cheir cyfarwyddyd gwahanol.
7. Peidio â dod â chwn.
8. Cymryd cyfrifoldeb am rai dan 18 oed sydd yn eich gofal.
9. Parcio eich cerbyd yn gyfrifol.