Teithiau Gwynedd a Mon Teithiau Gwynedd a Mon Teithiau Gwynedd a Mon

gartref

pwy yda ni

newyddion

cyhoeddiadau

newyddion

canllawiau

aelodaeth

gwadiad

 

 

 

 

 

 

 

 

 

.

Y Cyfansoddiad

 


1. Enw: Enw llawn y Gymdeithas yw 'Cymdeithas Edward Llwyd - Cymdeithas Genedlaethol Naturiaethwyr Cymru'.
   
2.

Amcanion: Amcanion y Gymdeithas yw hyrwyddo:


(a) astudiaeth o blanhigion, anifeiliaid, creigiau, a thirffurfiau Cymru, a'r berthynas rhyngddynt


(b) ymwybyddiaeth o amgylchedd a threftadaeth naturiol Cymru, a gweithio dros eu gwarchod


(c) astudiaeth o yrfa Edward Llwyd a'i ddysg ym meysydd botaneg, daeareg, archeoleg a hanes

 

STATWS. Cofrestrir y Gymdeithas yn Elusen gyda’r Comisiwn Elusennau yn gymwys i ddenu ad-daliad treth incwm trwy gyfrwng Rhodd Cymorth (Gift Aid)

   
3. Iaith: Cymraeg yw iaith y Gymdeithas.
   
4.

(i) Aelodaeth - Mae aelodaeth yn agored i bawb sy'n cytuno ag amcanion y Gymdeithas ac sy'n talu'r tâl aelodaeth a bennwyd gan y Pwyllgor Gwaith. Bydd unrhyw aelod y mae ei danysgrifiad yn ddyledus am chwe mis yn colli ei aelodaeth ond gall ymaelodi drwy dalu'r swm sy'n ddyledus am y flwyddyn honno.


(ii) Aelodau Anrhydeddus - Mae gan y Gymdeithas hawl i benodi aelodau anrhydeddus


(iii) Aelodau Sefydliadol - Caiff sefydliadau ymaelodi â'r Gymdeithas.

   
5. Llywydd: Gall y Gymdeithas ethol Llywydd Anrhydeddus.
   
6.

Pwyllgor Gwaith: Trefnir a rheolir gwaith y Gymdeithas gan y Pwyllgor Gwaith.

 

(a) Aelodau'r Pwyllgor Gwaith yw:

 

(i) y Llywydd Anrhydeddus

(ii) y Cadeirydd

(iii) yr Is-gadeirydd

(iv) yr Ysgrifenydd

(v) y Trysorydd

(vi) yr Ysgrifennydd Aelodaeth

(vii) y Trefnwyr Teithiau

(viii) Golygydd Y Naturiaethwr

(ix) Golygydd y Cylchlythyr

(x) un cynrychiolydd o bob is-bwyllgor

(xi) hyd at 10 aelod arall o'r Gymdeithas

(xii) Bydd Cadeirydd, Ysgrifennydd a’r Trysorydd yn aelodau cyn-swyddogion (ex-officio) o’r Pwyllgor Gwaith am flwyddyn yn dilyn eu hymddeoliad

 

(b) Swyddogion:

 

(i) Prif swyddogion y Gymdeithas yw: y Cadeirydd, yr Is-gadeirydd, yr Ysgrifenydd, a'r y Trysorydd.
(ii) Swyddogion eraill y Gymdeithas yw: yr Ysgrifennydd Aelodaeth, y Trefnwyr Teithiau, Golygydd Y Naturiaethwr, a Golygydd y Cylchlythyr.

 

(c) Mae'r prif swyddogion, yn rhinwedd eu swyddi, yn aelodau o unrhyw Is-bwyllgor neu gorff arall a sefydlir gan y Pwyllgor Gwaith.

 

(ch) Etholir y prif swyddogion a holl aelodau eraill y Pwyllgor Gwaith yn flynyddol yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Gymdeithas, yn unol â'r amodau a nodir isod

 

(i) ni chaniateir i dymor y Cadeirydd a'r Is-gadeirydd ymestyn yn ddi-dor dros gyfnod o fwy na thair blynedd yn yr un swydd

(ii) ni chaniateir i dymor unrhyw aelod arall o'r Pwyllgor Gwaith ymestyn yn ddi-dor dros gyfnod o fwy na thair blynedd, heb ganiatâd
y Cyfarfod Blynyddol

 

(d) Gall y Pwyllgor Gwaith gyfethol hyd at bum aelod ychwanegol.

 

(dd) Os bydd aelod o'r Pwyllgor Gwaith yn colli mwy na thri chyfarfod o'r Pwyllgor Gwaith yn olynol, heb gyflwyno ei ymddiheuriad, bydd hawl gan y Pwyllgor Gwaith derfynu ei aelodaeth o'r Pwyllgor Gwaith.

 

(e) Mae gan y Pwyllgor Gwaith yr hawl i lenwi unrhyw fwlch a achosir gan ymddiswyddiad swyddog.

 

(f) Gall y Pwyllgor Gwaith sefydlu Is-bwyllgorau, neu unrhyw gorff arall, i hyrwyddo agweddau arbennig ar waith y Gymdeithas. Gweithredir yr Is-bwyllgorau, a'r cyrff eraill, dan reolau a bennir gan y Pwyllgor Gwaith, ac maent yn atebol i'r Pwyllgor Gwaith. Gall y Pwyllgor Gwaith benodi aelodau o blith y Pwyllgor Gwaith a/neu aelodau cyffredin o'r Gymdeithas i wasenaethu ar Is-bwyllgorau a chyrff eraill.

 

(ff) Rhaid i nifer yr aelodau etholedig a fo'n bresennol mewn unrhyw gyfarfod o'r Pwyllgor Gwaith fod o leiaf wyth, i sicrhau dilysrwydd y penderfyniadau.

 

(g) Gall unrhyw aelod o'r Gymdeithas enwebu prif swyddog, swyddog neu aelod cyffredin o'r Gymdeithas, i wasanaethu am dymor fel aelod o'r Pwyllgor Gwaith, wedi iddo sicrhau eilydd a derbyn caniatâd y sawl a enwebir ymlaen llaw. Gellir dwyn enw(au)'r enwebedig(ion) i'r Ysgrifennyd naill ai cyn neu yn ystod y Cyfarfod Cyffredinol.

 

(ng) Rhed tymor gwasanaeth pob aelod o'r Pwyllgor Gwaith o un Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol i'r un dilynol.

 

(h) Gall y Pwyllgor Gwaith ddiarddel aelod am gamddefnyddio eiddo neu arian y Gymdeithas, am ddwyn anfri ar y Gymdeithas, neu an ymddygiad sydd yn gyson wrthwynebus i amcanion y Gymdeithas.

   
7.

Cyllid

 

(a) Cyfrifoldeb y Trysorydd yw cadw cyfrifion cywir, bancio holl arian y Gymdeithas yn enw'r Gymdeithas a daparu mantolen ariannol
archwiledig ar gyfer y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.

 

(b) Mae blwyddyn ariannol ac aelodaeth y Gymdeithas yn ymestyn o'r 1af Gorffennaf hyd y 30ain Mehefin.

 

(c) Llofnodir seiciau yn enw'r Gymdeithas gan y Trysorydd ac unrhyw un o'r prif swyddogion neu swyddogion eraill.

 

(ch) Awdurdodir y Pwyllgor Gwaith i ddefnyddio arian y Gymdeithas i hyrwyddo Amcanion y Gymdeithas yn unig.

   
8.

Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol : Yn unol â threfniant y Pwyllgor Gwaith cynhelir Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Gymdeithas, yn ystod yr hydref, er mwyn cyflawni'r gwaith a ganlyn:

 

(a) ystyried cofnodion y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol blaenorol


(b) ethol y prif swyddogion a'r swyddogion


(c) ethol aelodau eraill o'r Pwyllgor Gwaith


(ch) derbyn y fantolen ariannol


(d) pennu'r tâl aelodaeth


(dd) penodi Archwilydd nad yw'n aelod o'r Pwyllgor Gwaith


(e) derbyn adroddiad y Pwyllgor Gwaith am weithgareddau'r Gymdeithas oddi ar y cyfarfod cyffredinol blynyddol blaenorol


(f) ystyried unrhyw faterion eraill, trwy ganiatâd y cyfarfod

 

Mae gan bob aelod hawl i fynychu'r cyfarfod blynyddol ac i bleidleisio.

   
9. Pleidleisio: Penderfynir materion pob cyfarfod drwy gytundeb neu drwy fwrw pleidlais, agored, gan y sawl sydd yn bresennol.
Rhoddir pleidlais i Gadeirydd unrhyw bwyllgor a phleidlais ychwanegol pe bai angen torri dadl. Ni chaniateir pleidleisio drwy'r post neu ddulliau cyffelyb.
   
10.

Cyfarfod Cyffredinol Arbennig: Mae gan y Pwyllgor Gwaith neu ugain neu fwy o aelodau'r Gymdeithas, yr hawl i alw Cyfarfod Cyffredinol Arbennig ar unrhyw adeg. Rhaid i'r Pwyllgor Gwaith drefnu'r Cyfarfod Cyffredinol Arbennig a hysbysu'r aelodau, o leiaf tair wythnos ymlaen llaw, ynglyn â dyddiad a lleoliad y Cyfarfod. Yr hyn sy'n codi o'r mater a nodir ar agenda'r Cyfarfod yn unig sydd i'w benderfynu yn y Cyfarfod Cyffredinol Arbennig.

   
11. Cworwm: Rhaid i nifer yr aelodau a fo'n bresennol, ac yn pleidleisio, yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol neu mewn Cyfarfod Cyffredinol Arbennig fod o leiaf ugain i sicrhau dilysrwydd y penderfyniadau.
   
12. Newid y Cyfansoddiad: Mae gan y Pwyllgor Gwaith neu aelodau'r Gymdeithas yr hawl i gynnig newid i Gyfansoddiad y Gymdeithas, ar y amod y caiff y newid a gynigir ei gyflwyno i sylw'r Ysgrifenydd mewn da bryd i'w gynnwys yn yr rhifyn hwnnw o'r Cylchlythyr sy'n blaenori'r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol neu'r Cyfarfod Cyffredinol Arbennig a elwir i'r pwrpas o drafod y newid. Rhaid i'r nifer o blaid y newid fod o leiaf dwy ran o dair o'r aelodau sy'n pleidleisio, cyn y gellir ei fabwysiadu.
   
13.

Diddymu'r Gymdeithas


(a) Yr aelodau yn unig a all alw am ddiddymu'r Gymdeithas. Ystyrir cynnig i ddiddymu'r Gymdeithas mewn Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol neu mewn Cyfarfod Cyffredinol Arbennig wedi'i alw i'r pwrpas hwnnw gan o leiaf draean o holl aelodau'r Gymdeithas y pryd hwnnw. Rhaid i'r nifer o blaid i cynnig fod o leiaf dwy ran o dair o'r aelodau sy'n pleidleisio a 51% o'r aelodau sy'n bresennol cyn y gellir ei dderbyn.

 

(b) Pe diddymid y Gymdeithas yn dilyn y camau a nodir yng nghymal 13a (uchod), y Pwyllgor Gwaith fyddai'n gyfrifol am drosglwyddo holl asedau'r Gymdeithas i fudiad/fudiadau ac iddo/iddynt amcanion sy'n gydnaws ag amcanion y Gymdeithas.

   
14.

Cyrff allanol

 

Gall y Pwyllgor Gwaith ymgeisio am grantiau ariannol gan gyrff allanol er budd y Gymdeithas. Gall y Pwyllgor Gwaith gyflogi yn ôl y gofyn a chytuno ar amodau a thelerau yn y cyswllt hwn.

   
 


Llyfrau ar werth

 

Llyfrau Cymdeithas Edward Llwyd

 

Anifeiliaid asgwrn cefn
Rhestr enwau safonol Cymraeg Lladin a Saesneg.
Pris £3.00 + p&p

 

Planhigion blodeuol, Conwydd a Rhedyn
Pris £4.50 + p&p

 

Neu y ddau am bris gostyngol o £5.00 + p&p

 

 

 

 

gwadiadLlên y Llysiaunwyddaucyhoeddiadaunewyddion
Y De a'r Canolbarth Gwynedd a Môn Y Gogledd Ddwyrain