Oes gennych chi farn a syniadau ynglŷn â chyhoeddiadau a gwefannau Cymdeithas Edward Llwyd?
Ydych chi’n hoff o’r hyn sy’n cael ei gynnig ar hyn o bryd? Beth allai’r Gymdeithas wneud yn wahanol er mwyn gwella’r ddarpariaeth i chi fel aelodau, a helpu denu aelodau newydd?
Hoffech chi rannu’ch syniadau a’ch sylwadau er mwyn helpu'r
Gymdeithas ddatblygu at y dyfodol?
Ar Ebrill 8fed 2011 mae gwahoddiad i unrhyw aelod ddod i weithdy yn Festri Capel Noddfa, Rhydypennau (Bow Street), rhwng 12.30 a 4 o'r gloch y prynhawn.
Gobeithio y bydd yn brynhawn hwyliog ac fe fyddai’n wirioneddol braf gweld cymysgedd o hen wynebau a rhai newydd yn dod ynghyd i drafod a dod i benderfyniad am beth o gynnyrch pwysicaf y Gymdeithas.
Os oes gennych chi ddiddordeb i fod yn rhan o’r gweithdy a fyddechcystal â rhoi gwybod i fi erbyn Mawrth 31ain 2011 fel y gallwn roi trefn ar y gweithgaredd a’r lluniaeth.
Fy manylion cyswllt yw e.gwynn@ccw.gov.uk
Ffôn : 01248 387137 (gwaith) neu 01286 830454 (adre)
Dim ond yr aelodau hynny sydd â chyfeiriad ebost fydd wedi derbyn y neges hon. Os ydych yn ‘nabod aelodau eraill sydd heb fod ag ebost ond a fyddai â diddordeb yn y pwnc hwn, ac awydd dod i Rydypennau a fyddech cystal â phasio’r neges ymlaen.
Diolch yn fawr
Elinor Gwynn
Llyfrau ar werth
Llyfrau Cymdeithas Edward Llwyd
Anifeiliaid asgwrn cefn
Rhestr enwau safonol Cymraeg Lladin a Saesneg.
Pris £3.00 + p&p
Planhigion blodeuol, Conwydd a Rhedyn
Pris £4.50 + p&p