Newyddion
YN EISIAU - YSGRIFENNYDD CYFFREDINOL
a hefyd
GOLYGYDD i’r NATURIAETHWR
Ar ôl tair blynedd o wasanaeth clodwiw a dilychwin dymuniad ein Hysgrifennydd Cyffredinol, Gruff Roberts yw cael ei ryddhau o’i swydd fel ysgrifennydd, yng nghyfarfod blynyddol y Gymdeithas fis Medi. Mae’r swydd yn cwmpasu trefnu cyfarfodydd y Pwyllgor Gwaith, sydd yn cyfarfod pedair gwaith y flwyddyn, cymryd a chadw’r cofnodion a bod yn ddolen gyswllt rhwng y Gymdeithas a’r cyhoedd. Mae bod yn gyfarwydd â sustemau technoleg gwybodaeth yn fanteisiol iawn.
* * *
Ar ôl deng mlynedd o lafur diflino, ddiwedd 2008 mae Goronwy Wynne hefyd am gael ei ryddhau o’i swydd fel Golygydd y Naturiaethwr. Ail sefydlodd Goronwy'r cylchgrawn i fod yn un o safon uchel iawn. Mae’n cwmpasu casglu erthyglau a sylwadau yn null a thraddodiad Edward Llwyd a threfnu cyhoeddi’r cylchgrawn ddwywaith y flwyddyn. Mae hefyd yn aelod o Bwyllgor Gwaith y Gymdeithas.
Mae’n bosibl i’r Golygydd newydd drefnu panel golygyddol i’w gynorthwyo, os gwêl fod hynny’n fanteisiol i’r olygyddiaeth.
Ni chynigir tâl am y ddwy swydd ond ad-delir unrhyw dreuliau a wneir ar ran y Gymdeithas.
Os am fwy o wybodaeth cysylltwch â’r Cadeirydd presennol, Ieuan Roberts neu Gruff Roberts. Gellir cael eu cyfeiriadau a rhifau ffôn yn y cylchlythyr.